Lleoliad:
Fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 17 Hydref 2022
Amser:
13.30 -
15.36
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13001
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Alun Davies AS James Evans AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
2.1 SL(6)265 - Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
3.1 SL(6)260 - Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd yn flaenorol
4.1 SL(6)242 - Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022
Nododd y Pwyllgor fod yr offeryn wedi’i dynnu’n ôl a’i ddisodli gan Lywodraeth Cymru a chytunwyd i ystyried yr offeryn newydd yn y cyfarfod nesaf.
4.2 SL(6)266 - Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir etc.) (Diwygio) (Cymru) 2022
Trafododd a nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
5 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
5.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Rheoliadau Rheoli Mercwri (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
5.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Rheoliadau Cynhyrchion Bioladdol (Iechyd a Diogelwch) (Diwygio)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
6 Papurau i'w nodi
6.1 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
6.2 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Protocol Gogledd Iwerddon, a chytunodd i drafod adroddiad drafft ar y Memorandwm yn ei gyfarfod nesaf.
9 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol (Memorandwm Rhif 1 a Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Caffael: Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i ystyried fersiwn ddiwygiedig yn ei gyfarfod nesaf.
10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd): Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i ystyried fersiwn ddiwygiedig yn ei gyfarfod nesaf.
11 Pwyllgor Materion Ewropeaidd Ty’r Arglwyddi: Ymchwiliad i berthynas y DU a'r UE yn y dyfodol
Cytunodd y Pwyllgor ar ei dystiolaeth i Bwyllgor Materion Ewropeaidd Tŷ’r Arglwyddi i’r berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol.
12 Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Trafod yr ohebiaeth
Trafododd y Pwyllgor ymateb a gafwyd gan randdeiliad fel rhan o’i alwad wedi’i thargedu am dystiolaeth ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).